Mae fy mrodyr gwedi myned
Draw yn lluoedd o fy mlaen;
Rhai fu'n teithio dyffryn galar
Gyda mi, tua Salem lân:
Yn y dyffryn tywyll garw,
Ffydd i'r lan a'u daliodd hwy;
Mae'r addewid lawn i minnau,
Pa'm yr ofna'm henaid mwy.
- - - - -
Mae 'nghyfeillion wedi myned
Draw yn lluoedd yn y blaen,
Rhai fu'n mynd trwy ddyffryn Bacca
Gyda mi tua Salem lân:
Yn y dyffryn tywyll garw,
Ffydd i'r lan a'u daliodd hwy;
Mae'r addewid lawn i minnau:
Pa'm yr ofna'm henaid mwy?
- - - - -
Mae nghyfeillion wedi myned
Draw yn lluoedd o fy mlaen,
A fu'n teithio dyffryn Baca
Gyda mi i Salem lân:
Yn y dyffryn tywyll, garw,
Ffydd i'r lan a'u daliodd hwy;
Mae'r addewid lawn i minau,
Pam yr ofna f'enaid mwy!
Gweled tegwch wyneb Iesu,
Teilmo rhinwedd angeu loes,
Wna im' groesi'r glyn heb grynu
Os yn dywell bydd y nôs:
Y tywyllwch dry'n oleuni,
Haul a gyfyd uwch fy mhen;
Dim ond teimlo cariad Iesu,
Gynt fu farw ar y pren.
1: William Williams 1717-912: Samuel Evans 1777-1833
Tonau [8787D]: gwelir: Cofia f'enaid cyn it' dreulio Dyma'r byd y mae taranau Ffarwel i chwi gynt a gerais O am nerth i dreulio'm dyddiau O Iachawdwr pechaduriaid Pa fodd yr âf i trwy'r Iorddonen |
My brothers have gone
Yonder in hosts before me;
Some travelled the vale of lamentation
With me, towards holy Salem:
In the dark, rough vale,
It is faith which held them up;
The full promise is to me also,
Why shall my soul fear any more?
- - - - -
My friends have gone
Yonder in hosts on ahead,
Some went through the vale of Bacca
With me towards Holy Salem:
In the dark, rough vale,
It is faith which held them up;
The full promise is to me also:
Why shall my soul fear any more?
- - - - -
My friends have gone
Yonder in hosts before me,
Who have travelled the vale of Baca
With me to holy Salem:
In the dark, rough valley,
It is faith which kept them up;
The full promise is to me also,
Why shall my soul fear any more!
To see the fairness of the face of Jesus,
To feel the virtue of his death pangs,
Make me cross the vale without trembling
If dark will be the night:
The darkness will turn to light,
The sun will rise above my head;
Only to feel the love of Jesus,
Who once died on the tree.
tr. 2008,24 Richard B Gillion
|
|